Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Tachwedd 2016
 i'w hateb ar 23 Tachwedd 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd presennol cytundeb Prifddinas-Ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0060(FLG)

 

2. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am ddyraniadau y gyllideb i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon? OAQ(5)0050(FLG)

 

3. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithredu o ran llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0059(FLG)R

 

4. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gytundebau dinas? OAQ(5)0051(FLG)

 

5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ymwneud â phwerau awdurdodau lleol i fynd i gostau? OAQ(5)0056(FLG)

 

6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio addysg? OAQ(5)0065(FLG)

 

7. Lee Waters (Llanelli): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Bwrdd y Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol ynghylch pa mor barod yw awdurdodau lleol i rannu arferion caffael? OAQ(5)0052(FLG)

 

8. David Rees (Aberafan): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff yr ardoll brentisiaethau ar y grant bloc? OAQ(5)0058(FLG)

 

9. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cronfeydd strwythurol yr UE yn cynorthwyo busnesau a chyflogaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0064(FLG)

 

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i leihau ôl-ddyledion y dreth gyngor yng Nghymru? OAQ(5)0054(FLG)

 

11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol i Dorfaen? OAQ(5)0063(FLG)

 

12.Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ehangu'r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardollau annomestig 2017 wedi effeithio arnynt? OAQ(5)0061(FLG)

 

13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gallai Llywodraeth Cymru gydweithio ag awdurdodau lleol i lunio atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0053(FLG)

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ynghylch darparu gwasanaethau treth yn Gymraeg? OAQ(5)0062(FLG)W

 

15. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu ail nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0057(FLG)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yng Nghymru? OAQ(5)0055(ERA)

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0056(ERA)

 

3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0054(ERA)

 

4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0064(ERA)W

 

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo bwyd môr o Gymru? OAQ(5)066(ERA)W

 

6. Rhianon Passmore (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau tirwedd? OAQ(5)0062(ERA)

 

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am statws ecolegol dyfroedd mewnol a dyfroedd arfordir Cymru? OAQ(5)0063(ERA)

 

8. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi ynni yn y de-ddwyrain?  OAQ(5)0053(ERA)

 

9. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio pecynnau bwyd polystyren yng Nghymru? OAQ(5)0067(ERA)

 

10. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i reoli llygredd aer? OAQ(5)0059(ERA)

 

11. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau COP22 i Gymru? OAQ(5)0057(ERA)

 

12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol? OAQ(5)0058(ERA)

 

13. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i hwyluso mynediad i gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0065(ERA)

 

14. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo perchnogion tai yng Nghymru sy'n wynebu trafferthion o ganlyniad i gynlluniau arbed ynni? OAQ(5)0060(ERA)

 

15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â ffermwyr yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0061(ERA)R

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Faint o ddamweiniau a gofnodwyd a ddigwyddodd ar ystâd y Cynulliad ers mis Mai 2011? OAQ(5)003(AC)